'Olifer'
Bu 40 o ddisgyblion Bl. 8 a 9 yn perfformio yn Neuadd Ffynnonbedr ar y 14eg a 15fed o Ragfyr. Roedd yn bleser i weld yr holl egni a brwdfrydedd gan yr holl ddisgyblion, o’r babanod fyny i ddisgyblion Bl. 9.
|
|
|
|
Prosiect Celf Cymunedol
Mae’r Adran Celf a Dylunio wedi ymuno ag Ysgol Ffynonbedr a’r arlunydd lleol Andy Chittock, i helpu creu calendr ar gyfer 2012, sy’n llawn ffotograffau o Lanbed a’r dalgylch.
|
|
|
Taith Gerdded Noddedig
Ar ddydd Gwener, Tachwedd y 18fed, diwrnod Plant Mewn Angen, cynhaliwyd taith gerdded noddedig mewn gwisg ffansi ar hyd Heol Maestir. Er gwaetha’r glaw man yn ystod y daith bum milltir, cafwyd tipyn o sbort a sbri ac roedd nifer o ddisgyblion wedi gwisgo’n ddeniadol iawn, yn ogystal ag ambell aelod o staff.
Codwyd £1,400 tuag at Blant Mewn Angen a Ty Hafan. Diolch i bawb a wnaeth trefnu’r diwrnod ac i bawb am eu hymdrechion a’u haelioni.
|